Developments

Parc Peris, Llanon – Cardigan Bay

Welcome to Parc Peris, a stunning development of character bungalows and houses, with spectacular sea views over “The Bay” in the coastal village of Llanon.

Parc Peris is set in a fabulous location on the coast of Cardigan Bay, with easy access to the local beach. The development is only 11 miles south of Aberystwyth and 5 miles north of Aberaeron on the main A487 coast road. The village offers many local amenities including a family-owned pub, convenience store, local shops and a traditional Fish and Chip Shop.

Croeso i Barc Peris! Dyma ddatblygiad arbennig o fyngalos a thai modern llawn cymeriad, sydd â golygfeydd ysblennydd o’r môr dros “Y Bae” ym mhentref arfordirol Llanon. Mae Parc Peris wedi’i leoli mewn lleoliad gwych ar arfordir Bae Aberteifi, gyda mynediad hawdd i’r traeth lleol. Lleolwyd y datblygiad ond 11 milltir i’r de o Aberystwyth a 5 milltir i’r gogledd o Aberaeron ar brif ffordd arfordirol yr A487. Mae’r pentref yn cynnig llawer o amwynderau lleol gan gynnwys tafarn teuluol, siop
gyfleustra, siopau lleol a siop sglodion draddodiadol.

OUT & ABOUT

The beach can be accessed via a footpath and is approximately a 5-minute stroll from Parc Peris. The route takes you past the Village Hall, through the twin village of Llansantfraed and on to the beach near the Church of St Bride. Llanon is a virtual midpoint of the Ceredigion Coastal Path walk that runs from Ynys Las in the north to Cardigan in the south. It is a beautiful walk covering all the towns and villages on its route and may be walked in easy sections. A 10-minute drive south takes you to Aberaeron, a stunning Georgian harbour town, where you will find many excellent restaurants and a good selection of independent shops. Heading north, the larger town of Aberystwyth can be reached in approximately 20 minutes and has all the amenities you would expect plus the bonus of an excellent University and the National Library of Wales. Buses run hourly
in both directions up and down the coast.

EDUCATION

Primary school provision is at Ysgol Gynradd Llanon, a Welsh medium school which currently has 31 pupils on role. Staff to pupil ratios are well above national average, the school feeds in to Ysgol Gyfyn Aberaeron which is a bilingual school located 5 miles away in Aberaeron.

MEDICAL

Medical services are provided in Aberaeron where there several GP practices to choose from. Pharmacy services are also located in Aberaeron, but most pharmacies will offer prescription delivery service to Llanon. A well-equipped district general hospital can be found in Aberystwyth offering a full range of medical and surgical services.

O GWMPAS YR ARDAL

Ceir mynediad i draeth cyfagos, 5 munud ar droed o Barc Peris. Wrth gerdded y llwybr troed, gwelwch Neuadd y Pentref, pentref cyfagos Llansantfraed ac eglwys leol. Mae Llanon wrth ymyl llwybr Arfordirol Ceredigion sy’n rhedeg o Ynys Las yn y Gogledd i Aberteifi yn y De. Mae’n daith gerdded hyfryd sy’n cwmpasu’r holl drefi a phentrefi ar ei llwybr a gellir ei cherdded yn rhannol ac yn hawdd. 10 munud i’r De
gellir ymweld â thref harbwr drawiadol Aberaeron. Yno gwelir ambell fwyty rhagorol a dewis da o siopau annibynnol. I’r gogledd, gellir cyrraedd tref fwy Aberystwyth mewn oddeutu 20 munud. Mae yno lawer o amwynderau ynghyd â Phrifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae bysiau’n rhedeg bob awr i’r ddau gyfeiriad, i fyny ac i lawr ar hyd yr arfordir.

ADDYSG

Mae yna ysgol gynradd yn gyfagos – Ysgol Gynradd Llanon. Ysgol cyfrwng Cymraeg yw hon sydd â 31 o ddisgyblion ar ei chofrestr ar hyn o bryd. Mae cymarebau staff:ddisgyblion yr ysgol hon ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r ysgol yn bwydo Ysgol Gyfun Aberaeron sy’n ysgol ddwyieithog, wedi’i lleoli 5 milltir i ffwrdd, yn Aberaeron.

MEDDYGOL

Darperir gwasanaethau meddygol yn Aberaeron lle mae sawl meddygfa i ddewis o’u plith. Mae gwasanaethau fferyllol hefyd wedi’u lleoli yn Aberaeron a’r cyffiniau, sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu presgripsiynau i bentref Llanon. Mae ysbyty cyffredinol dda yn Aberystwyth sy’n cynnig ystod lawn o wasanaethau meddygol
a llawfeddygol.

The Houses - click to view more info.